Romans 3:25 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
yr hwn a ’osodes Duw yn gymmot trwy ffydd yn y waed ef y ddangos y gyfiawnder ef, can vaddeuant y pechoteu oeddent gynt, drwy ddyoddefiat Duw,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr Hwn a osododd Duw yn iawn trwy ffydd, trwy Ei waed Ef, i ddangos Ei gyfiawnder Ef, o achos maddeuant y pechodau a wnaethid o’r blaen, yn nioddefgarwch Duw;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yr hwn a osododd Duw yn gymod drwy ffydd, yn ei waed ef, i arddangos ei gyfiawnder: oherwydd myned heibio yn hirymaros Duw i’r pechodau a gyflawnwyd gynt,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn a osododd Duw yn iawn, trwy ffydd yn ei waed ef, i ddangos ei gyfiawnder ef, trwy faddeuant y pechodau a wnaethid o'r blaen, trwy ddioddefgarwch Duw;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Trwy ei ffyddlondeb yn tywallt ei waed, rhoddodd Duw e yn aberth i gymryd y gosb am ein pechod ni. Cafodd ei gosbi yn ein lle ni! Roedd yn dangos fod Duw yn berffaith deg, er bod pechodau pobl yn y gorffennol heb eu cosbi cyn hyn. Bod yn amyneddgar oedd e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yr hwn a osododd Duw gerbron y byd, yn ei waed, yn aberth cymod trwy ffydd. Gwnaeth Duw hyn i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad, yn wyneb yr anwybyddu a fu ar bechodau'r gor-ffennol yn amser ymatal Duw;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn a osododd Duw allan yn Drugareddfa, trwy ffydd, yn ei waed ef, er arddangosiad o'i gyfiawnder ef, o herwydd ei fynediad heibio i'r pechodau a wnaethpwyd o'r blaen, yn nyoddefgarwch Duw;