Romans 3:26 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y ddangos y pryd hyn y gyfiawnder ef, mal y byddei ef yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb ysydd o ffydd Iesu.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
i ddangos, meddaf, Ei gyfiawnder Ef y pryd hwn, fel y bo Efe yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd a chanddo ffydd yn yr Iesu.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel yr arddangosai ei gyfiawnder y pryd hwn, ei fod ef yn gyfiawn ac yn gyfiawnhawr y neb sydd ganddo ffydd yn Iesu.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
I ddangos ei gyfiawnder ef y pryd hwn; fel y byddai efe yn gyfiawn, ac yn cyfiawnhau y neb sydd o ffydd Iesu.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae'n dangos ei fod yn dal yn berffaith deg, wrth iddo dderbyn y rhai sy'n credu yn Iesu i berthynas iawn ag e'i hun.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ie, i ddangos ei gyfiawnder yn ddiymwad yn yr amser presennol hwn, sef ei fod ef ei hun yn gyfiawn a hefyd yn cyfiawnhau'r sawl sy'n meddu ar ffydd yn Iesu.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
er arddangosiad o'i gyfiawnder ef y pryd hwn, fel y byddai efe ei hun yn gyfiawn ac yn cyfiawnhau yr hwn sydd o ffydd Iesu.