Romans 3:27 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
P’le gan hyny y mae’r ffrost? E gaywyt allan. Trwy pa ddeddyf? Ai vn y gweithredoedd? Nac ef: eithr can ddeddyf ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa le, gan hyny, y mae’r ymffrost? Cauwyd allan. Trwy ba gyfraith? Ai cyfraith gweithredoedd? Nage; eithr trwy gyfraith ffydd. Cyfrifwn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Pa le, gan hynny, yr ymffrost? Wedi ei gau allan. Trwy ba fath ddeddf? Gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa le gan hynny y mae y gorfoledd? Efe a gaewyd allan. Trwy ba ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage; eithr trwy ddeddf ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly oes gynnon ni'r Iddewon le i frolio? Nac oes! Pam ddim? — Yn wahanol i gadw'r Gyfraith Iddewig dydy credu ddim yn rhoi unrhyw le i ni frolio.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A oes lle, felly, i'n hymffrost? Nac oes! Y mae wedi ei gau allan. Ar ba egwyddor? Ai egwyddor cadw gofynion cyfraith? Nage'n wir, ond ar egwyddor ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa le gan hynny y mae yr ymffrost? Cauwyd ef allan. Trwy ba fath ddeddf? ai deddf gweithredoedd? Nage, eithr trwy ddeddf ffydd.