Romans 3:30 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys vn Duw ytyvv, yr hwn a gyfiawnha yr enwaediat o’r ffydd, a’ dienwaediat trwy ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ïe, i’r cenhedloedd hefyd, gan mai un yw Duw, yr Hwn a gyfiawnha yr amdorriad trwy ffydd, ac y diamdorriad trwy ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ie, i genhedloedd hefyd, os yn wir un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha’r enwaediad drwy ffydd, a’r dienwaediad drwy’r un ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan mai un Duw sydd, yr hwn a gyfiawnha'r enwaediad wrth ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
“Un Duw sydd” ac un ffordd sydd o gael ein derbyn i berthynas iawn gydag e hefyd. Mae e'n derbyn Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) trwy iddyn nhw gredu, ac mae e'n derbyn pawb arall (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛) yn union yn yr un ffordd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ydyw, yn wir, oherwydd un yw Duw, a bydd yn cyfiawnhau'r enwaededig trwy ffydd, a'r dienwaededig trwy'r un ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
os yn wir un yw Duw, yr hwn a gyfiawnhâ yr enwaediad mewn canlyniad i ffydd, a'r dienwaediad trwy ffydd.