Romans 3:4 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na bo hyny: eithr bid Duw yn gywir, a’ phob dyn yn gelwyddoc, megis ydd scrivennwyt, Mal ith cyfiawnheir yn dy ’eiriae, ac yty ’orvot pan ith varner.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel yr ysgrifenwyd, “Fel y’th gyfiawnhaer yn Dy eiriau, Ac y gorfyddech pan y’th fernir.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ato! Yn hytrach caffer Duw yn eirwir ond pob dyn yn gelwyddog, fel yr ysgrifennwyd: Fel y cyfiawnhaer di yn dy eiriau, ac y gorchfygi pan farner di.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ato Duw: eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog; megis yr ysgrifennwyd, Fel y'th gyfiawnhaer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gwrs ddim! Mae Duw bob amser yn dweud y gwir er bod “y ddynoliaeth yn gelwyddog” Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud fel hyn am Dduw: “Mae beth rwyt ti'n ddweud yn iawn; byddi'n ennill yr achos pan fyddi ar brawf.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ddim ar unrhyw gyfrif! Rhaid bod Duw yn eirwir, er i bawb arall fod yn gelwyddog. Fel y mae'n ysgrifenedig: "Fel y'th geir yn gywir yn dy eiriau, a gorchfygu wrth gael dy farnu."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ddim o gwbl! eithr bydded Duw yn eirwir, a phob dyn yn gelwyddog, megys y mae yn ysgrifenedig: Fel y'th gyfiawnhâer yn dy eiriau, ac y gorfyddech pan y'th farner.