Romans 3:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Velly a’s ein anwiredd ni a gymenna wirionedd Duw, pa beth a ddywedwn? aydyw Duw yn ancyfiawn yr hwn ’sy yn rroi poen (dywedyt ydd wyf val yn ol dull dyn.)
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os ein hanghyfiawnder a ganmol gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr Hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dyn yr wyf yn dywedyd;)
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr os dengys ein hanghyfiawnder ni gyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn Duw a ddwg arnom y digofaint? Yn null dyn y llefaraf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr os yw ein hanghyfiawnder ni yn canmol cyfiawnder Duw, pa beth a ddywedwn? Ai anghyfiawn yw Duw, yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (yn ôl dyn yr wyf yn dywedyd;)
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond ydyn ni'n mynd i ddadlau wedyn, “Mae'r pethau drwg dŷn ni'n eu gwneud yn dangos yn gliriach fod Duw yn gwneud beth sy'n iawn, felly mae Duw yn annheg yn ein cosbi ni”? (A dyna sut mae rhai pobl yn dadlau).
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond os yw'n hanghyfiawnder ni yn dwyn i'r golau gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? Mai anghyfiawn yw'r Duw sy'n bwrw ei ddigofaint arnom? (Siarad fel dyn yr wyf.)
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr os ein hannghyfiawnder ni a ganmol gyfiawnder Duw, beth a ddywedwn? ai annghyfiawn yw Duw yr hwn sydd yn dwyn arnom ddigofaint? (Yn ol dull dyn yr wyf yn dywedyd);