Romans 3:7 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit a’s gwirionedd Duw vu chelaethach trwy vy‐celwydd i y vv ’ogoniant ef, paam mwy ach im bernir i nef mal pechatur?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a fu helaethach i’w ogoniant Ef, paham yr wyf finnau hefyd mwyach yn cael fy marnu fel pechadur,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond os ymhelaethodd gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i i’w ogoniant ef, paham y bernir finnau eto yn bechadur?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os bu gwirionedd Duw trwy fy nghelwydd i yn helaethach i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau eto megis pechadur?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Neu ydy'n iawn dadlau fel yma?: “Mae'r celwydd dw i'n ddweud yn dangos yn gliriach fod Duw yn dweud y gwir, ac mae'n ei anrhydeddu e! Felly pam dw i'n dal i gael fy marnu fel pechadur?”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ie, ond os yw fy anwiredd i yn foddion i ddangos helaethrwydd gwirionedd Duw, a dwyn gogoniant iddo, pam yr wyf fi o hyd dan farn fel pechadur?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond os gwirionedd Duw, trwy fy nghelwydd i, a ymhelaethodd i'w ogoniant ef, paham y'm bernir innau hefyd etto fel pechadur?