Romans 3:8 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac (megis in gogonir, ac me g is y ’sygana rei ein bot yn dywedyt) paam na wnawn ddrwc, val y del da o hanavv? yr ei ’sy gyfion ei barnedigeth arnynt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac na (fel y’n ceblir, ac y dywaid rhai ein bod yn dywedyd,) wnawn y pethau drwg fel y delo y pethau da, y rhai y mae eu condemniad yn gyfiawn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
A phaham na ddywedwn, megis y ceblir ni, ac megis, medd rhywrai, y dywedwn, “gwnawn ddrygioni fel y delo daioni”? Cosb y cyfryw, cyfiawn yw.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid, (megis y'n ceblir, ac megis y dywed rhai ein bod yn dywedyd,) Gwnawn ddrwg, fel y dêl daioni? y rhai y mae eu damnedigaeth yn gyfiawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na! Waeth i ni ddweud wedyn, “Gadewch i ni wneud drwg er mwyn i ddaioni ddod o'r peth”! Ac oes, mae rhai yn hel straeon sarhaus mai dyna dŷn ni yn ei ddweud! … Maen nhw'n haeddu beth sy'n dod iddyn nhw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
"Gadewch i ni wneud drygioni er mwyn i ddaioni ddilyn" ai dyna yr ydym yn ei ddweud, fel y mae rhai sy'n ein henllibio yn mynnu? Y mae'r rheini'n llawn haeddu bod dan gondemniad.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
a phaham nad (fel y'n ceblir, ac fel y dywed rhai ein bod yn dywedyd) “Gwnawn ddrwg fel y del ddaioni?” y rhai y mae eu dedfryd yn gyfiawn.