Romans 3:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth am hyny? a ym ni mwy ragorawl? Nag ym ddim oll: can ys provesam eisioes, vot pawp ys yr Iuddaeon a’r Cenetloedd y dan bechot:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny? A ydym ni yn fwy rhagorol? Ddim o gwbl; canys cyhuddasom o’r blaen yr Iwddewon a’r Groegwyr hefyd o fod,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth ynteu? A ragorir arnom ni? Dim o gwbl. Canys cyhuddasom eisoes Iddewon a Groegiaid, bawb, o fod dan bechod,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth gan hynny? a ydym ni yn fwy rhagorol? Nac ydym ddim: canys ni a brofasom o'r blaen fod pawb, yr Iddewon a'r Groegwyr, dan bechod;
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly beth ydyn ni'n ei ddweud? Ydyn ni Iddewon yn well yng ngolwg Duw na phawb arall? Wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi dangos fod pechod yn rheoli'n bywydau ni fel pawb arall!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Wel, ynteu, a ydym ni'r Iddewon yn rhagori? Ddim o gwbl! Yr ydym eisoes wedi cyhuddo Iddewon a Groegiaid fel ei gilydd o fod dan lywodraeth pechod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Beth gan hynny? a ragorir arnom ni? ddim o gwbl; canys ni a gyhuddasom Iuddewon a Groegiaid hefyd eu bod oll dan bechod;