Romans 4:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
PA beth gan hyny a ddywedwn, ga h el o Abraham ein tad erwydd y cnawd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn y cafodd Abraham ein cyn-dad yn ol y cnawd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth, gan hynny, a ddywedwn i Abraham, ein cyndad yn ôl y cnawd, ei ennill?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein tad ni ei gael, yn ôl y cnawd?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond beth am Abraham felly — tad y genedl Iddewig? Oes ganddo fe rywbeth i'w ddysgu i ni am hyn i gyd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth gan hynny a ddywedwn am Abraham, hendad ein llinach? Beth a ddarganfu ef?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth gan hynny a ddywedwn ni ddarfod i Abraham ein cyndâd ei gael yn ol y cnawd?