Romans 4:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yno y cymerth ef arwydd yr enwaediat, vegis yn in sel yr ffydd rhon oedd ganthaw cyn enwaedu arno, val y byddei ef yn dat pawp vyddei yn credu, cyn enwaedu arnynt, mal y cyfrifit yn cyfiawnder yddwynt vvy hefyt,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac arwydd yr amdorriad a gafodd efe, yn sel cyfiawnder ei ffydd, yr hon oedd yn y di-amdorriad, fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, er mewn di-amdorriad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a derbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd a oedd ganddo yn ddienwaededig, fel y byddai ef dad pawb a gred o’r dienwaediad, fel y cyfrifid iddynt gyfiawnder,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe a gymerth arwydd yr enwaediad, yn insel cyfiawnder y ffydd, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad: fel y byddai efe yn dad pawb a gredent, yn y dienwaediad; fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt hwythau hefyd:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ar ôl cael ei dderbyn y cafodd e ei enwaedu — a hynny fel arwydd o'r ffaith ei fod wedi credu. Roedd Duw eisoes wedi ei dderbyn i berthynas iawn ag e'i hun. Felly mae Abraham yn dad i bawb sy'n credu ond ddim wedi bod trwy'r ddefod o gael eu henwaedu.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac wedyn derbyniodd arwydd yr enwaediad, yn sl o'r cyfiawnder oedd eisoes yn eiddo iddo trwy ffydd, heb enwaediad. O achos hyn, y mae yn dad i bawb sy'n meddu ar ffydd, heb enwaediad, a chyfiawnder felly yn cael ei gyfrif iddynt.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac efe a dderbyniodd arwydd enwaediad, sêl cyfiawnder y ffydd yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad; fel y byddai yn dâd pawb a'r sydd yn credu, er eu bod mewn dienwaediad, fel y cyfrifid cyfiawnder iddynt;