Romans 4:12 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ac yn dat yr enwaediat, ny d yddynt wy yn vnic yr ei o’r enwaediat, any d ir sawl hefyt a gerddant ar ol ion ffydd ein tat Abraham, ’rhon oedd ganto cyn yr enwaediat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
fel y cyfrifer cyfiawnder iddynt; ac yn dad yr amdorriad, i’r rhai sydd nid yn unig o’ r amdorriad, eithr sydd hefyd yn rhodio yn olion ffydd ein tad Abraham tra yn y di-amdorriad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a thad yr enwaediad, i’r rhai sydd nid yn unig o’r enwaediad, ond sydd hefyd yn cerdded llwybrau ffydd ein tad Abraham, ac yntau’n ddienwaededig.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn dad yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r sawl hefyd a gerddant lwybrau ffydd Abraham ein tad ni, yr hon oedd ganddo yn y dienwaediad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond mae hefyd yn dad i'r rhai sy'n credu ac wedi cael eu henwaedu — dim am eu bod nhw wedi bod trwy'r ddefod, ond am eu bod wedi credu yr un fath ag Abraham.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae yn dad hefyd i'r rhai enwaededig sydd nid yn unig yn enwaededig ond hefyd yn dilyn camre'r ffydd oedd yn eiddo i Abraham ein tad cyn enwaedu arno.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac yn dâd yr enwaediad, nid i'r rhai o'r enwaediad yn unig, ond i'r rhai hefyd ydynt yn cerdded yn olion ffydd ein tâd Abraham yr hon oedd ganddo mewn dienwaediad.