Romans 4:13 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr addewit ar iddo vot yn etifedd ir byt, ny roed i Abraham, nei yw had, trwy ’r ddeddyf, amyn trwy gyfiawnder ffydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys nid trwy’r Gyfraith yr oedd yr addewid i Abraham, neu i’w had, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys nid drwy ddeddf y bu’r addewid i Abraham nac i’w had, ei fod ef yn etifedd byd, ond drwy gyfiawnder ffydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid trwy'r ddeddf y daeth yr addewid i Abraham, neu i'w had, y byddai efe yn etifedd y byd: eithr trwy gyfiawnder ffydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Duw wedi addo i Abraham y byddai ei ddisgynyddion yn etifeddu'r ddaear. Cael perthynas iawn gyda Duw trwy gredu sy'n dod â'r addewid yn wir, dim gwneud beth mae'r Gyfraith Iddewig yn ei ofyn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'r addewid i Abraham, neu i'w ddisgynyddion, y byddai yn etifedd y byd, wedi ei rhoi, nid trwy'r Gyfraith ond trwy'r cyfiawnder a geir trwy ffydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys nid trwy ddeddf yr oedd yr Addewid i Abraham neu i'w hâd, y byddai yn etifedd y byd, eithr trwy gyfiawnder ffydd.