Romans 4:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny o ffydd y mae yr etiveddiaeth, val y del trwy rat, a’ bot yr addewit yn ddilis ir holl had, sef ny d yn vnic ir hwn ysy dd o’r ddeddyf: any d hefyt ir hwn ysy dd o ffydd Abraham, rhwn yw ein tad ni oll,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
O herwydd hyn o ffydd y mae, fel yn ol gras y byddo, fel y byddo’r addewid yn ddiymmod i’r holl had, nid i’r hwn sydd yn unig o’r Gyfraith, eithr hefyd i’r hwn sydd o ffydd Abraham,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oherwydd hyn y bu o ffydd, fel y byddai yn ôl gras, er mwyn i’r addewid fod yn sicr i’r holl had, nid i’r rhai sydd o’r ddeddf yn unig, ond hefyd i’r neb sydd o ffydd Abraham — yr hwn yw ein tad ni oll
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ôl gras: fel y byddai'r addewid yn sicr i'r holl had; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tad ni oll,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly credu ydy'r ffordd i dderbyn beth mae Duw wedi ei addo! Rhodd Duw ydy'r cwbl! Ac mae disgynyddion Abraham i gyd yn ei dderbyn. Nid dim ond Iddewon sydd â'r Gyfraith ganddyn nhw, ond pawb sydd wedi credu yr un fath ag Abraham. Ydy, mae Abraham yn dad i ni i gyd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, rhoddwyd yr addewid trwy ffydd er mwyn iddi fod yn l gras, fel y byddai yn ddilys i bawb o ddisgynyddion Abraham, nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn l y Gyfraith, ond hefyd i'r rhai sy'n byw yn l ffydd Abraham. Y mae Abraham yn dad i ni i gyd;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny o ffydd y mae, fel y byddai yn ol gras, fel y byddai yr Addewid yn sicr i'r holl hâd; nid yn unig i'r hwn sydd o'r ddeddf, ond hefyd i'r hwn sydd o ffydd Abraham, yr hwn yw ein tâd ni oll,