Romans 4:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
(megis y mae yn scrivenedic, Mi ath wnaethym yn dat llawer o genedloeð) ’sef geir bron Duw yr hwn a gredawdd ef, yr hwn a vywocaa ’r meirw, ac a’ ailw y petheu nyd ynt, val pe baent.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn yw ein tad ni oll (fel yr ysgrifenwyd, “Tad llawer o genhedloedd y’th wnaethum,”) ger bron yr Hwn y credodd efe Iddo, sef Duw y sy’n bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
(fel yr ysgrifennwyd: Yn dad cenhedloedd lawer y gosodais di) — gerbron Duw, yr hwn y credodd iddo, y Duw a fywha’r meirw, ac a eilw ar bethau nad ydynt fel pe byddent;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
(Megis y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dad llawer o genhedloedd,) gerbron y neb y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau'r meirw, ac sydd yn galw'r pethau nid ydynt, fel pe byddent:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Mae'r ysgrifau sanctaidd yn dweud y peth yn hollol glir: “Dw i wedi dy wneud di'n dad i lawer o genhedloedd.” Dyna sut mae'r Duw y credodd Abraham ynddo yn gweld pethau. Fe ydy'r Duw sy'n gwneud pobl farw yn fyw ac yn galw i fod bethau oedd ddim yn bodoli o gwbl o'r blaen!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
fel y mae'n ysgrifenedig: "Yr wyf yn dy benodi yn dad cenhedloedd lawer." Yn y Duw a ddywedodd hyn y credodd Abraham, y Duw sy'n gwneud y meirw'n fyw, ac yn galw i fod yr hyn nad yw'n bod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
(fel y mae yn ysgrifenedig, Mi a'th wneuthum yn dâd Cenhedloedd lawer) gerbron yr hwn y credodd efe iddo, sef Duw, yr hwn sydd yn bywhau y meirw, ac yn galw y pethau nad ydynt fel pe baent;