Romans 4:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Yr hwn Abraham tros ben gobeith, a gredawdd y dan ’obeith, val y byðei yn dat Cenetloedd lawer: erwydd hyn a ðywedesit vvrthavv, Velly y bydd dy had di.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yr hwn yn erbyn gobaith, dan obaith a gredodd, fel yr elai efe yn dad llawer o genhedloedd, yn ol yr hyn a ddywedasid, “Felly y bydd dy had.”
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
hwn, ar bwys gobaith a gredodd yn erbyn gobaith, fel y delai yn dad cenhedloedd lawer, yn ôl a ddywedwyd: Felly y bydd dy had di;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yr hwn yn erbyn gobaith a gredodd dan obaith, fel y byddai efe yn dad cenhedloedd lawer; yn ôl yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy had di.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Do, credodd Abraham, a daliodd ati i gredu hyd yn oed pan oedd pethau'n edrych yn gwbl anobeithiol! Credodd y byddai yn “dad i lawer o genhedloedd.” Credodd beth ddwedodd Duw, “Fel yna fydd dy ddisgynyddion di.”
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A'r credu hwn, gobaith y tu hwnt i obaith, a'i gwnaeth yn dad cenhedloedd lawer, yn l yr hyn a lefarwyd: "Felly y bydd dy ddisgynyddion."
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
yr hwn tuhwnt i obaith mewn gobaith a gredodd, fel y byddai yn dâd Cenhedloedd lawer, yn ol yr hyn a ddywedasid, Felly y bydd dy hâd di.