Romans 4:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ef e ny d yn eg wan o ffyð nyd ystyriawdd y gorph y hunan, yr hwn oedd weithiō wedy marw eiddio, ac yn cylch can blwyð oed, na marwoleth bru Sara.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac heb fod yn wan mewn ffydd, ystyriodd ei gorph ei hun yn awr megis wedi ei farwhau (ac efe ynghylch can mlwydd oed) a marweidd-dra bru Sarah;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
a heb wanhau yn ei ffydd gwybu farweiddio ei gorff ei hun, gan ei fod ynghylch can mlwydd oed, a marw bru Sara,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac efe, yn ddiegwan o ffydd, nid ystyriodd ei gorff ei hun, yr hwn oedd yr awron wedi marweiddio, ac efe ynghylch can mlwydd oed, na marweidd‐dra bru Sara.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Daliodd ati i gredu'n hyderus, er ei fod yn gwybod ei fod yn llawer rhy hen i fod yn dad. Roedd yn gan mlwydd oed! Ac roedd Sara hefyd yn llawer rhy hen i fod yn fam.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er ei fod tua chant oed, ni wanychodd yn ei ffydd, wrth ystyried cyflwr marw ei gorff ei hun a marweidd-dra croth Sara.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac heb fod yn egwan mewn ffydd, efe a ystyriodd ei gorph ei hun eisoes wedi ei farweiddio (ac efe ynghylch can mlwydd oed), a marweidd‐dra bru Sara;