Romans 4:21 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
gan vot yn gwbl ddilis ganto, am yr hwn a aðawsei, y vot ef hefyt yn abl yvv wneuthur.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac yn gwbl sicr ganddo, mai yr hyn a addawsai Efe, Ei fod hefyd yn abl i’w wneuthur ef:
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
yn llawn sicrwydd ei fod yn abl i gyflawni hefyd yr hyn a addawodd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yn gwbl sicr ganddo, am yr hyn a addawsai efe, ei fod ef yn abl i'w wneuthur hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd Abraham yn hollol sicr y gallai Duw wneud beth roedd wedi addo'i wneud.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
yn llawn hyder fod Duw yn abl i gyflawni'r hyn yr oedd wedi ei addo.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi cael sicrwydd hollol ei fod yn alluog i gyflawnu hefyd yr hyn a addawodd;