Romans 4:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr ir neb ny weithia, any d credu yn hwn a gyfiawnha yr enwir, y ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ond i’r hwn nad yw yn gweithio, ond yn credu yn yr Hwn sy’n cyfiawnhau yr annuwiol,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond i’r neb ni weithreda, eithr a gred yn yr hwn sy’n cyfiawnhau’r annuwiol, cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond wrth gredu bod Duw yn derbyn pobl annuwiol i berthynas iawn ag e'i hun, dydy rhywun ddim yn dibynnu ar beth mae e'i hun wedi ei wneud. Mae'r “berthynas iawn gyda Duw” yn cael ei roi iddo fel rhodd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan na fydd rhywun yn gweithio, ond yn rhoi ei ffydd yn yr hwn sy'n cyfiawnhau'r annuwiol, cyfrifir ei ffydd i un felly yn gyfiawnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr i'r neb nid yw yn gweithio, ond yn credu yn yr hwn sydd yn cyfiawnhau yr annuwiol, ei ffydd ef a gyfrifir yn gyfiawnder.