Romans 4:6 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Megis ac y datcan Dauid ddedwyddwch y dyn, yr hwn y cyfrif Duw yddo gyfiawnder eb weithredoedd,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
cyfrifir ei ffydd ef yn gyfiawnder: fel y mae Dafydd hefyd yn adrodd dedwyddwch y dyn i’r hwn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder yn wahan oddiwrth weithredoedd,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
megis y dywed Dafydd hefyd am wynfyd y dyn y cyfrif Duw iddo gyfiawnder ar wahân i weithredoedd:
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Megis y mae Dafydd hefyd yn datgan dedwyddwch y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo heb weithredoedd, gan ddywedyd,
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dwedodd y Brenin Dafydd yr un peth! (Mae'n sôn am y fendith sydd pan mae rhywun sy'n cael ei dderbyn i berthynas iawn gyda Duw, ac yntau heb wneud dim i haeddu hynny):
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyna ystyr yr hyn y mae Dafydd yn ei ddweud am wynfyd y rhai y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddynt, yn annibynnol ar gadw gofynion cyfraith:
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Megys y mae Dafydd hefyd yn llefaru am ddedwyddiad y dyn y mae Duw yn cyfrif cyfiawnder iddo ar wahan oddiwrth weithredoedd: