Romans 4:9 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ddaeth y dedwyddid hyn aryr enwaediat yn vnic, ai ar y dienwaediat hefyt? Yr Epistol ar ddydd Enwaediat Christ. Can ys‐dywedwn, ddarvot cyfrif y ffydd i Abraham yn lle cyfiawnder.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Y dedwyddwch hwn, gan hyny, ai ar yr amdorriad y mae, neu ar y di-amdorriad hefyd? Canys dywedwn,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Y gwynfyd hwn, yn awr, ai i’r enwaediad y mae ai i’r dienwaediad hefyd? Oherwydd dywedyd yr ydym: Cyfrifwyd i Abraham ffydd yn gyfiawnder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
A ddaeth y dedwyddwch hwn gan hynny ar yr enwaediad yn unig, ynteu ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd ddarfod cyfrif ffydd i Abraham yn gyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ai dim ond Iddewon (sef ‛pobl yr enwaediad‛) sy'n cael profi'r fendith yma? Neu ydy pobl eraill hefyd (sef ‛pobl sydd heb enwaediad‛)? Gadewch i ni droi'n ôl at Abraham i gael yr ateb: Dŷn ni wedi dweud mai trwy gredu y cafodd Abraham berthynas iawn gyda Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y gwynfyd hwn, ai braint yn dilyn ar enwaediad yw? Oni cheir ef heb enwaediad hefyd? Ceir yn wir, oherwydd ein hymadrodd yw, "cyfrifwyd ei ffydd i Abraham yn gyfiawnder".
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
A ddaeth y dedwyddiad hwn ar yr enwaediad, ynte ar y dienwaediad hefyd? canys yr ydym yn dywedyd fod ffydd wedi ei chyfrif i Abraham yn gyfiawnder.