Romans 5:1 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
CAn ein cyfiawnhau ni can ffydd, y mae genym dangneðyf tu ac at Dduw trwy ein Arglwydd Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Wedi ein cyfiawnhau, gan hyny, trwy ffydd, bydded heddwch genym gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, a nyni wedi ein cyfiawnhau o ffydd, bydded gennym heddwch tuag at Dduw trwy ein Harglwydd Iesu Grist,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Am hynny, gan ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch tuag at Dduw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, gan ein bod ni wedi'n derbyn i berthynas iawn gyda Duw, drwy gredu, mae gynnon ni heddwch gyda Duw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Am hynny, oherwydd ein bod wedi ein cyfiawnhau trwy ffydd, y mae gennym heddwch Duw trwy ein Harglwydd Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Wedi ein cyfiawnhâu gan hynny trwy ffydd, bydded gennym heddwch gyda Duw, trwy ein Harglwydd Iesu Grist;