Romans 5:11 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny d yn vnic hyny, eithyr ymlawenychu dd ym hefyt yn‐Duw trwy ein Arglwyð Iesu Christ, can yr hwn yr awrhon y d erbyniesam y cyssyl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac nid hyny yn unig, eithr gorfoleddu hefyd yr ydym yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y cawsom y cymmod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac nid hynny’n unig, ond yr ydym hefyd yn ymffrostio yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, y cawsom yn awr y cymod drwyddo.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid hynny yn unig, eithr gorfoleddu yr ydym hefyd yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr hwn yr awr hon y derbyniasom y cymod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni'n brolio am Dduw o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia! Fe sydd wedi gwneud y berthynas iawn yma'n bosib.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond heblaw hynny, yr ydym hefyd yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist; trwyddo ef yr ydym yn awr wedi derbyn y cymod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac nid hynny yn unig, ond hefyd yr ydym yn gorfoleddu yn Nuw trwy ein Harglwydd Iesu Grist, trwy yr Hwn yn awr y derbyniasom y cymmod.