Romans 5:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Cā ys yd amser y Ddeddyf ydd oedd pechat yn y byt, eithyr ny chyfrifir pechot, pryd nad oes Ddeddyf.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
o herwydd i bawb bechu, canys hyd y Gyfraith yr oedd pechod yn y byd, a phechod ni chyfrifir pan nad oes cyfraith;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys yr oedd pechod yn y byd cyn deddf, ond ni chyfrifir pechod heb fod deddf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd: eithr ni chyfrifir pechod pryd nad oes deddf.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Oedd, roedd pechod yn y byd cyn i Dduw roi'r Gyfraith i Moses. Er bod pechod ddim yn cael ei gyfri am fod y Gyfraith ddim yno i'w thorri, roedd pechod yno, ac roedd yn gadael ei ôl.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n wir fod pechod yn y byd cyn bod y Gyfraith, ond yn niffyg cyfraith, nid yw pechod yn cael ei gyfrif.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
canys hyd y ddeddf yr oedd pechod yn y byd, ond ni chyfrifir pechod os na fydd deddf: