Romans 5:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr angeu a deyrnasawdd o Aða yd Moysen, ac arnynt wy hefyt a’r ny phechhasant yn ol cyffelipiaeth y camwedd Adda yr hwn yw ffurf yr vn a ddauei.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
eithr teyrnasodd marwolaeth o Adam hyd Mosheh, hyd yn oed tros y rhai na phechasant yn ol cyffelybiaeth trosedd Adam, yr hwn sydd gynllun yr Hwn oedd ar ddyfod.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y sawl na phechasant yn nhebygrwydd trosedd Adda, yr hwn sydd batrwm yr un a oedd i ddyfod.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, ie, arnynt hwy y rhai ni phechasant yn ôl cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn yw ffurf yr un oedd ar ddyfod.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Roedd pobl yn marw o gyfnod Adda hyd amser Moses. Roedden nhw'n marw er eu bod nhw ddim wedi pechu yn union yn yr un ffordd ag Adda trwy fod yn anufudd i orchymyn penodol. Mewn rhyw ffordd mae Adda yn fodel o'r Meseia oedd yn mynd i ddod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses, hyd yn oed ar y rhai oedd heb bechu ar batrwm trosedd Adda; ac y mae Adda yn rhaglun o'r Dyn oedd i ddod.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
er hynny, teyrnasodd marwolaeth o Adda hyd Moses hyd y nod ar y rhai ni phechasant yn ol cyffelybiaeth camwedd Adda, yr hwn oedd gysgodlun o'r Hwn oedd i ddyfod.