Romans 5:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithr ny d yw’r dawn velly, vegis y mae’r camwedd: o bleit a’s trwy gamwedd vn, y bu veirw l’awer, mwy o lawer rhat Duw, a’r dawn drwy rat, yr hyn ’sy trwy vn dyn Iesu Christ, a vwyedigawdd i lawer.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu llawer feirw, llawer mwy y bu gras Duw a’r rhodd trwy ras yr un Dyn Iesu Grist mewn gorlawnder i laweroedd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Eithr nid fel y camwedd, felly hefyd y dawn; canys os trwy gamwedd yr un y bu farw’r lliaws, mwy o lawer yr ymhelaethodd i’r lliaws ras Duw, a’r rhodd drwy ras yr un dyn Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr nid megis y camwedd, felly y mae'r dawn hefyd. Canys os trwy gamwedd un y bu feirw llawer; mwy o lawer yr amlhaodd gras Duw, a'r dawn trwy ras yr un dyn Iesu Grist, i laweroedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac eto tasen ni'n cymharu'r rhodd o faddeuant gyda throsedd Adda, maen nhw'n wahanol iawn i'w gilydd! Marwolaeth tyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad trosedd un (sef Adda). Ond tywallt maddeuant ar dyrfa enfawr o bobl oedd canlyniad beth wnaeth y llall (sef Iesu y Meseia) — ie, maddeuant yn rhodd gan Dduw!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond nid yw'r weithred sy'n drosedd yn cyfateb yn hollol i'r weithred sy'n ras. Y mae'n wir i drosedd yr un ddwyn y llawer i farwolaeth; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: helaethrwydd gras Duw a'i rodd raslon i'r llawer, o'r un dyn, Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr nid fel y camwedd, felly y dawn hefyd; canys os trwy gamwedd yr un y bu feirw y llawer, mwy o lawer y gor‐ymhelaethodd gras Duw a'r rhodd trwy ras yr un dyn Iesu Grist i'r llawer.