Romans 5:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac ny d yw’r dawn velly, vegis y peth a ddeuth y mevvn trwy’r vn a bechawdd: can ys y bai a ddaeth o’r vn camvvedd i varnedigeth eithyr y dawn ’sydd o gamweddae lawer i gyfiawn h ad.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ac nid fel trwy un a bechodd y mae’r rhodd, canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o lawer o gamweddau i gyfiawnhad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ac nid megis trwy bechu o un y mae y rhodd; canys daeth y farn oddi wrth un i gondemniad, ond y dawn oddi wrth gamweddau lawer i gyfiawnhad.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac nid megis y bu trwy un a bechodd, y mae'r dawn: canys y farn a ddaeth o un camwedd i gondemniad; eithr y dawn sydd o gamweddau lawer i gyfiawnhad.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ac mae canlyniad y rhodd mor wahanol i ganlyniad y pechod. Barn a chosb sy'n dilyn yr un trosedd hwnnw, ond mae'r rhodd o faddeuant yn gwneud ein perthynas ni â Duw yn iawn. Dŷn ni'n cael ein gollwng yn rhydd er gwaetha llu o bechodau.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ac ni ellir cymharu canlyniad pechod un dyn chanlyniad rhodd Duw. Ar y naill law, yn dilyn ar un weithred o drosedd, y mae dedfryd gyfreithiol sy'n collfarnu; ar y llaw arall, yn dilyn ar droseddau lawer, y mae gweithred o ras sy'n dyfarnu'n gyfiawn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac nid megys trwy un dyn a bechodd, y mae y rhodd; canys y farn oedd o un i gondemniad, ond y dawn o gamweddau lawer i gyfiawnhâd.