Romans 5:17 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys a’s trwy gamwedd vn, y teyrnasawdd angae trwy vn, mwy o lawer y bydd ir ei a dd erbyniant y lliosogrwydd o rat, ac o ddawn y cyfiawnder, deyrnasu ym‐bywyt trwy vn, ’sef Iesu Christ.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys os trwy gamwedd yr un y bu i farwolaeth deyrnasu trwy yr un, llawer mwy y rhai sy’n derbyn y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, a deyrnasant mewn bywyd trwy yr Un, Iesu Grist.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y bydd i’r rhai a dderbyn helaethrwydd o ras ac o rodd cyfiawnder deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os trwy gamwedd un y teyrnasodd marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosowgrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Canlyniad trosedd un dyn (sef Adda) oedd fod pawb yn marw, ond o achos beth wnaeth y dyn arall (Iesu y Meseia), bydd y rhai sy'n derbyn rhodd Duw o berthynas iawn gydag e yn cael bywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Y mae'n wir i farwolaeth, trwy drosedd yr un, deyrnasu trwy'r un hwnnw; ond gymaint mwy sydd ar yr ochr arall: pobl sy'n derbyn helaethrwydd gras Duw, a'i gyfiawnder yn rhodd, yn cael byw a theyrnasu trwy un dyn, Iesu Grist.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os trwy gamwedd yr un y teyrnasodd marwolaeth trwy yr un, mwy o lawer y caiff y rhai a dderbyniant y gorlawnder o ras ac o rodd cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy yr un, Iesu Grist.