Romans 5:18 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys yr vn modd vegis trwy gamweð vn y ddaeth y bai ar bawb dyn er barnedigeth, velly trwy gyfiawn h at vn y lliosoceit y davvn i bop dyn er cyfiawn h at bywyt.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Gan hyny, ynte, fel trwy un camwedd y bu ar bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un gwaith cyfiawn y bu ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Am hynny, ynteu, megis trwy un camwedd y daeth y farn i bob dyn i gondemniad, felly hefyd trwy un weithred gyfiawn y daeth y dawn i bob dyn i gyfiawnhad bywyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Felly gan hynny, megis trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, canlyniad Adda'n troseddu oedd condemnio'r ddynoliaeth, ond canlyniad Iesu yn gwneud y peth iawn oedd bod perthynas iawn gyda Duw, a bywyd, yn cael ei gynnig i'r ddynoliaeth.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Dyma'r gymhariaeth gan hynny: fel y daeth collfarn ar y ddynolryw i gyd trwy un weithred o drosedd, felly hefyd y daeth cyfiawnhad sy'n esgor ar fywyd i'r ddynolryw i gyd trwy un weithred o gyfiawnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Gan hynny, yn wir, trwy un camwedd, y canlyniad oedd i bob dyn er condemniad, felly hefyd trwy un weithred o gyfiawnder y canlyniad oedd i bob dyn er cyfiawnhâd bywyd.