Romans 5:19 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
O bleit megis trwy anuvyðdot vn dyn y gwnaethpwyt llawer yn pechaturieit, vel’y trwy uvyð d ot vn y gwnair llawer yn gyfiawn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys fel trwy anufudd-dod yr un dyn pechaduriaid y gwnaethpwyd y llawer, felly hefyd trwy ufudd-dod yr Un,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys, megis trwy anufudd-dod un dyn y gwnaed y lliaws yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd-dod un y gwneir y lliaws yn gyfiawn.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid megis trwy anufudd‐dod un dyn y gwnaethpwyd llawer yn bechaduriaid; felly trwy ufudd‐dod un y gwneir llawer yn gyfiawn.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Cafodd tyrfa enfawr o bobl eu gwneud yn bechaduriaid am fod Adda wedi bod yn anufudd. A'r un modd daeth tyrfa enfawr o bobl i berthynas iawn gyda Duw am fod Iesu wedi bod yn ufudd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Fel y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid trwy anufudd-dod un dyn, felly hefyd y gwneir y llawer yn gyfiawn trwy ufudd-dod un dyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys megys trwy anufudd‐dod yr un dyn y gwnaethpwyd y llawer yn bechaduriaid, felly hefyd trwy ufudd‐dod yr un y gwnaethpwyd y llawer yn gyfiawn.