Romans 5:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Hefyt y Ddeddyf a ddaeth y mywn er amylhau camwedd: er hyny lle ’r amylhaodd pechot, yno y tra amylhaodd rhat yn vwy o lawer:
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
cyfiawnion y gwneir y llawer. A’r Gyfraith hefyd a ddaeth i mewn fel yr amlhai y camwedd; ond lle yr amlhaodd pechod, rhagor mewn gorlawnder yr oedd gras;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond daeth deddf i mewn fel y cynyddai y camwedd, eithr lle cynyddodd pechod, tra-ymhelaethodd gras,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y ddeddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi'r camwedd: eithr lle yr amlhaodd y pechod, y rhagor amlhaodd gras:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pwrpas rhoi'r Gyfraith i Moses oedd i helpu pobl i weld gymaint oedden nhw'n troseddu. Ond tra roedd pobl yn pechu fwy a mwy, dyma Duw yn tywallt ei haelioni y tu hwnt i bob rheswm.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond daeth y Gyfraith i mewn, er mwyn i drosedd amlhau; ond lle'r amlhaodd pechod, daeth gorlif helaethach o ras;
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond deddf a ddaeth i mewn fel yr amlhâi y camwedd; ond lle yr amlhâodd pechod, y gor‐ymhelaethodd gras;