Romans 5:21 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
y n y byddei megis y teyrnasawð pechawt ir angeu, velly bot hefyt i rat deyrnassu drwy gyfiawnder i vywyt tragyvythawl, trwy Iesu Christ ein Arglwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
er mwyn fel y teyrnasodd pechod ym marwolaeth, felly hefyd y byddai i ras deyrnasu, trwy gyfiawnder, i fywyd tragywyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
fel, megis y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol; trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Fel megis y teyrnasodd pechod i farwolaeth, felly hefyd y teyrnasai gras trwy gyfiawnder i fywyd tragwyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Yn union fel roedd pechod wedi cael gafael mewn pobl a hwythau wedyn yn marw, mae haelioni Duw yn gafael mewn pobl ac yn dod â nhw i berthynas iawn gydag e. Maen nhw'n cael bywyd tragwyddol — o achos beth wnaeth ein Harglwydd ni, Iesu y Meseia.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
ac felly, fel y teyrnasodd pechod trwy farwolaeth, y mae gras i deyrnasu trwy gyfiawnder, gan ddwyn bywyd tragwyddol trwy Iesu Grist ein Harglwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
fel, megys y teyrnasodd pechod mewn marwolaeth, felly hefyd teyrnased gras trwy gyfiawnder i fywyd tragywyddol, trwy Iesu Grist ein Harglwydd.