Romans 5:7 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Diau may braidd y bydd neb varw dros vn cyfiawn: er hyny dros vn da ef allei y beiddiai vn varw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys braidd tros un cyfiawn y bydd neb farw, canys tros y dyn da, hwyrach hyd yn oed y beiddiai un farw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys prin y bydd neb farw dros un cyfiawn; dros ddyn da efallai y beiddiai un hyd yn oed farw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oblegid braidd y bydd neb farw dros un cyfiawn: oblegid dros y da ysgatfydd fe feiddiai un farw hefyd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Prin bod unrhyw un yn fodlon marw dros berson hunangyfiawn. Falle y byddai rhywun yn fodlon marw dros berson da.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Go brin y bydd neb yn marw dros un cyfiawn. Efallai y ceir rhywun yn ddigon dewr i farw dros un da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oblegyd o'r braidd y bydd neb farw dros ddyn cyfiawn; oblegyd dros y dyn da feallai y beiddiai un hyd y nod farw.