Romans 5:8 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Eithyr y mae Duw yn eglurhau ei gariat tu ac attam, o bleit a ny ni yn pechaturieit, marw o Christ trosō.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
A chanmol Ei gariad Ei hun tuag attom y mae Duw, gan mai tra etto pechaduriaid oeddym trosom y bu Crist farw.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ond fe brawf Duw ei gariad ei hun tuag atom, gan i Grist, a ni eto yn bechaduriaid, farw trosom.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Eithr y mae Duw yn canmol ei gariad tuag atom; oblegid, a nyni eto yn bechaduriaid, i Grist farw trosom ni.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond dangosodd Duw i ni gymaint maen ein caru ni trwy i'r Meseia farw droson ni pan roedden ni'n dal i bechu yn ei erbyn!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond prawf Duw o'r cariad sydd ganddo tuag atom ni yw bod Crist wedi marw drosom pan oeddem yn dal yn bechaduriaid.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Eithr y mae Duw yn llwyr‐brofi ei gariad ei hun tuag attom ni, gan, a nyni etto yn bechaduriaid, i Grist farw drosom.