Romans 5:9 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Mwy ynte o lawer, can ddarvot ein cyffiawnhau ni weithion can y waet ef, in iachëir rac digo feint trwyddaw ef.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Llawer mwy, gan hyny, wedi ein cyfiawnhau yn awr trwy Ei waed Ef, y byddwn gadwedig, trwyddo Ef, oddiwrth y digofaint.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Mwy o lawer, ynteu, a ni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed, yr achubir ni trwyddo ef rhag y digofaint.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Mwy ynteu o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y'n hachubir rhag digofaint trwyddo ef.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dŷn ni bellach wedi cael ein derbyn i berthynas iawn gyda Duw am fod gwaed y Meseia wedi ei dywallt. Does dim amheuaeth, felly, y byddwn ni'n cael ein harbed ganddo rhag cael ein cosbi!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ninnau yn awr wedi ein cyfiawnhau trwy ei waed ef, y mae'n sicrach fyth y cawn ein hachub trwyddo ef rhag y digofaint.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Mwy ynte o lawer, a nyni yn awr wedi ein cyfiawnhâu yn ei Waed ef, y'n hachubir trwyddo ef rhag y digofaint.