Romans 6:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
BEth wrth hynny a ddywedwn? a drigwn ni yn wastad mevvn pechot er amylhau rhat?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny, a ddywedwn? Ai, Arhoswn mewn pechod fel y bo i ras amlhau?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth ynteu a ddywedwn? A ydym i lynu wrth bechod fel y cynyddo gras?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth wrth hynny a ddywedwn ni? a drigwn ni yn wastad mewn pechod, fel yr amlhao gras?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, beth mae hyn i gyd yn ei olygu? Ei bod hi'n iawn i ni ddal ati i bechu er mwyn i Dduw ddangos mwy a mwy o haelioni?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Beth, ynteu, sydd i'w ddweud? A ydym i barhau mewn pechod, er mwyn i ras amlhau?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth gan hynny a ddywedwn? A barhawn ni mewn pechod fel y byddo i ras amlhau?