Romans 6:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac na rowch eich aelodae yn arveu anwiredd i bechot: eithyr rhowch eich humain y Dduw, megis rei o veirw yn vyw, a ’rhovvch eich aylodae yn arvae gwiredd i Dduw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac na roddwch eich aelodau, yn arfau anghyfiawnder, i bechod; eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, fel rhai o feirw yn fyw, a’ch aelodau,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac na chyflwynwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod, ond cyflwynwch eich hunain i Dduw, megis o farw yn fyw, a’ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw;
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac na roddwch eich aelodau yn arfau anghyfiawnder i bechod: eithr rhoddwch eich hunain i Dduw, megis rhai o feirw yn fyw; a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Peidiwch gadael iddo reoli unrhyw ran o'ch corff i'w ddefnyddio i wneud beth sy'n ddrwg. Yn lle hynny gadewch i Dduw eich rheoli chi, a'ch defnyddio chi i wneud beth sy'n dda. Roeddech yn farw, ond bellach mae gynnoch chi fywyd newydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Peidiwch ag ildio eich cyneddfau corfforol i bechod, i'w defnyddio i amcanion drwg. Yn hytrach, ildiwch eich hunain i Dduw, yn rhai byw o blith y meirw, ac ildiwch eich cyneddfau iddo, i'w defnyddio i amcanion da.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ac na chynnygiwch eich aelodau yn arfau annghyfiawnder i bechod, eithr cynnygiwch eich hunain i Dduw, megys rhai o feirw yn fyw, a'ch aelodau yn arfau cyfiawnder i Dduw.