Romans 6:14 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys ny d arglwyddiaetha pechot arnoch: can nad ych y dan y Ddeddyf, any d y dan ’rat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
yn arfau cyfiawnder i Dduw: canys pechod, arnoch chwi nid arglwyddiaetha, canys nid ydych tan y Gyfraith, eithr tan ras.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
canys ni bydd pechod yn feistr arnoch chwi, oblegid nid ydych dan ddeddf ond dan ras.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys nid arglwyddiaetha pechod arnoch chwi: oblegid nid ydych chwi dan y ddeddf, eithr dan ras.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ddylai pechod ddim bod yn feistr arnoch chi ddim mwy. Dim y Gyfraith sy'n eich rheoli chi bellach — mae Duw yn ei haelioni wedi'ch gollwng chi'n rhydd!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Nid chaiff pechod arglwyddiaethu arnoch, oherwydd nid ydych mwyach dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pechod nid arglwyddiaetha arnoch chwi, oblegyd nid ydych dan ddeddf ond dan ras.