Romans 6:15 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Beth am hyny? a bechwn ni, am nad ym y dan y Ddeddyf, amyn dan rat? Na ato Duw.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Pa beth, gan hyny? Ai pechu a wnawn, o herwydd nad ydym tan y Gyfraith, eithr tan ras?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Beth gan hynny? A ydym i bechu, oblegid nad ydym dan ddeddf ond dan ras? Na ato!
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Beth wrth hynny? a bechwn ni, oherwydd nad ydym dan y ddeddf, eithr dan ras? Na ato Duw.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly, ydyn ni'n mynd i ddal i bechu am mai dim y Gyfraith sy'n ein rheoli ni bellach, a'n bod wedi profi haelioni Duw? Na! Wrth gwrs ddim!
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond beth sy'n dilyn? A ydym i ymroi i bechu, am nad ydym dan deyrnasiad cyfraith, ond dan deyrnasiad gras? Ddim ar unrhyw gyfrif!
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Pa beth, gan hynny? a bechwn ni o herwydd nad ydym dan ddeddf eithr dan ras? Na atto Duw!