Romans 6:16 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A ny wyðoch, mae i bwy bynac yr ymroddwch ychunain yn weision y vvyddhau, eich bot yn weision ir hwn yr vvyddhaoch y‐ddaw, ai yn vveison y bechot i r angeu, ai yn vveison vvyðdot i wiredd?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na atto Duw. Oni wyddoch mai i’r hwn y rhoddwch eich hunain yn weision er ufudd-dod, gweision ydych i’r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo, pa un bynnag ai gweision pechod i farwolaeth; neu weision ufudd-dod, i gyfiawnder?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Oni wyddoch am bwy bynnag y cyflwynwch chwi eich hunain iddo yn gaethion i ufudd-dod, eich bod yn gaethion i’r neb yr ufuddhewch iddo, naill ai pechod i farwolaeth, neu ufudd-dod i gyfiawnder?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi, mai i bwy bynnag yr ydych yn eich rhoddi eich hunain yn weision i ufuddhau iddo, eich bod yn weision i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai i bechod i farwolaeth, ynteu i ufudd‐dod i gyfiawnder?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim wedi deall? Mae rhywun yn gaeth i beth bynnag mae'n dewis ufuddhau iddo. Felly y dewis ydy, naill ai pechod yn arwain i farwolaeth neu ufudd-dod yn arwain i berthynas iawn gyda Duw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Onid ydych yn gwybod, os ydych yn eich ildio eich hunain ag ufudd-dod caethwas i rywun, mai caethion ydych i'r sawl sy'n cael eich ufudd-dod; prun bynnag a ydych yn gaethion i bechod, a marwolaeth yn dilyn, neu'n gaethion i ufudd-dod, a chyfiawnder yn dilyn?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Oni wyddoch chwi mai i'r hwn y cynnygiwch eich hunain yn weision er ufudd‐dod, gweision ydych i'r hwn yr ydych yn ufuddhau iddo; pa un bynnag ai gweision i bechod i farwolaeth, neu gweision ufudd‐dod i gyfiawnder?