Romans 6:18 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ych rhyddhau chvvi ywrth pechawt, ich gwnaethpwyt yn weision gwiredd. Yr Epistol y. vij gwedy Trintat.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod y’ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod caethiwyd chwi i gyfiawnder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, fe a'ch gwnaethpwyd yn weision i gyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Dych chi wedi'ch rhyddhau o afael pechod a dod yn weision i beth sy'n iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Cawsoch eich rhyddhau oddi wrth bechod, ac aethoch yn gaethion i gyfiawnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
ac wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, chwi a wnaed yn weision i gyfiawnder.