Romans 6:19 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
A’r ðull‐dynol yr wyf yn ymadrodd, o bleit gwendit eich cnawt chvvi: can ys megis y rhoesoch eich aylodae yn weision aflendit ac anwiredd y vvneuthur enwiredd, velly yr awrhon rhowch eich aylodeu yn weision i wiredd mewn sancteiddrwydd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Yn ol dull dynion yr wyf yn dywedyd o herwydd gwendid eich cnawd; canys fel y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder er sancteiddiad.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ar wedd ddynol y llefaraf, oherwydd gwendid eich cnawd. Megis y cyflwynasoch eich aelodau yn gaethion i aflendid ac anghyfraith er anghyfraith, felly yn awr cyflwynwch eich aelodau yn gaethion i gyfiawnder er sancteiddrwydd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Yn ôl dull dynol yr ydwyf yn dywedyd, oblegid gwendid eich cnawd chwi. Canys megis ag y rhoddasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac anwiredd, i anwiredd; felly yr awr hon rhoddwch eich aelodau yn weision i gyfiawnder, i sancteiddrwydd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Gadewch i mi ddefnyddio darlun o fywyd bob dydd sy'n hawdd i chi ei ddeall: O'r blaen roeddech chi'n gadael i bob math o fudreddi a drygioni eich rheoli chi. Ond bellach rhaid i chi adael i beth sy'n iawn eich rheoli chi, a'ch gwneud chi'n bobl sy'n byw bywydau glân.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Yr wyf yn arfer ymadroddion cyfarwydd, o achos eich cyfyngiadau dynol chwi. Fel yr ildiasoch eich cyneddfau corfforol gynt i fod yn gaethion i aflendid ac anghyfraith, a phenrhyddid yn dilyn, felly ildiwch hwy yn awr i fod yn gaethion i gyfiawnder, a bywyd sanctaidd yn dilyn.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Yn ol dull dynol yr wyf yn dywedyd, oblegyd gwendid eich cnawd chwi; canys fel y cynnygiasoch eich aelodau yn weision i aflendid ac i annghyfraith er annghyfraith; yr un modd yn awr cynnygiwch eich aelodau yn weision cyfiawnder er sancteiddiad.