Romans 6:2 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Na ato Duw. Pa wedd y byð ir ei ydym yn veirw i bechot, vyw eto ynddo?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Na atto Duw. Ni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y byddwn fyw etto ynddo?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Na ato! A ni wedi marw i bechod, pa fodd mwyach y byddwn byw ynddo?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Na ato Duw. A ninnau wedi meirw i bechod, pa wedd y byddwn byw eto ynddo ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Na, wrth gwrs ddim! Dŷn ni wedi marw i'r hen fywyd o bechod, felly sut allwn ni ddal ati i bechu o hyd?
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ddim ar unrhyw gyfrif! Pobl ydym a fu farw i bechod; sut y gallwn ni, mwyach, fyw ynddo?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Na atto Duw! Nyni, y rhai a fuom feirw i bechod, pa fodd y gallwn fyw etto ynddo?