Romans 6:20 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys pan oeddech yn weision pechawt, yr oeddech yn rhyddion ywrth wiredd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych tuag at gyfiawnder.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys pan oeddech gaethion pechod, rhydd oeddech o ran cyfiawnder.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys pan oeddech yn weision pechod, rhyddion oeddech oddi wrth gyfiawnder.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Pan oeddech chi'n gaeth i bechod, doedd dim disgwyl i chi wneud beth sy'n iawn.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Pan oeddech yn gaeth i bechod, yr oeddech yn rhydd oddi wrth gyfiawnder.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys pan oeddych weision pechod, rhyddion oeddych mewn perthynas i gyfiawnder.