Romans 6:22 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Ac yr owrhon gwedy ych rhyddhau y wrth pechawt, ac wedy eich gwneuthur yn weision y Dduw, y mae y chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r dywedd yn vywyt dragyvythawl.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddiwrth bechod, a’ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae genych eich ffrwyth i sancteiddiad,
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ond yn awr, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod a’ch caethiwo i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a’r diwedd yn fywyd tragwyddol.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Ac yr awr hon, wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, y mae i chwi eich ffrwyth yn sancteiddrwydd, a'r diwedd yn fywyd tragwyddol.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ond nawr dych chi'n rhydd o afael pechod ac wedi dechrau gwasanaethu Duw. Canlyniad hynny ydy'r bywyd glân sy'n arwain yn y pen draw i fywyd tragwyddol.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Ond yn awr yr ydych wedi eich rhyddhau oddi wrth bechod, a'ch gwneud yn gaethion i Dduw, ac y mae ffrwyth hyn yn eich meddiant, sef bywyd sanctaidd, a'r diwedd fydd bywyd tragwyddol.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ond yn awr wedi eich rhyddhâu oddiwrth bechod, a'ch gwneuthur yn weision i Dduw, mae i chwi eich ffrwyth er sancteiddiad, a'r diwedd yn fywyd tragywyddol.