Romans 6:3 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Any wyddoch, am danom ni oll y sawl a vetyddiwyt ir Iesu Christ, ddarvot ein betyddio ni yn y angen ef?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai heb wybod yr ydych mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, i’w farwolaeth Ef y’n bedyddiwyd?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai heb wybod yr ydych am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, mai i’w farwolaeth y bedyddiwyd ni?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi, am gynifer ohonom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu, ein bedyddio ni i'w farwolaeth ef?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Ydych chi ddim wedi deall? Pan gawson ni'n bedyddio i ddangos ein bod yn perthyn i'r Meseia Iesu, roedden ni'n uniaethu â'i farwolaeth e.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ydych heb ddeall fod pawb ohonom a fedyddiwyd i Grist Iesu wedi ein bedyddio i'w farwolaeth?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Neu a ydych heb wybod mai cynnifer o honom ag a fedyddiwyd i Grist Iesu ein bedyddio i'w farwolaeth ef?