Romans 6:4 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
In claddwyt ni gan hyny y gyd ac ef trwy vetydd yn y angeu ef, val megis ac y cyfodwyt Christ o veirw gan ’ogoniant y tat, velly bot i ni hefyt rodio yn newydd vvch buchedd.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Cyd-gladdwyd ni, gan hyny, gydag Ef trwy farwolaeth, er mwyn fel y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y byddai i ninnau hefyd rodio yn newydd-deb buchedd;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Claddwyd ni gydag ef felly trwy fedydd i farwolaeth, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau mewn newydd-deb bywyd.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Claddwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth: fel megis ag y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tad, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb buchedd.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Wrth gael ein bedyddio, cawson ni'n claddu gydag e, am fod y person oedden ni o'r blaen wedi marw. Ac yn union fel y cafodd y Meseia ei godi yn ôl yn fyw drwy nerth bendigedig y Tad, dŷn ninnau hefyd bellach yn byw bywydau newydd.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Trwy'r bedydd hwn i farwolaeth fe'n claddwyd gydag ef, fel, megis y cyfodwyd Crist oddi wrth y meirw mewn amlygiad o ogoniant y Tad, y byddai i ninnau gael byw ar wastad bywyd newydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Cyd‐gladdwyd ni gan hynny gydag ef trwy fedydd i farwolaeth, fel megys y cyfodwyd Crist o feirw trwy ogoniant y Tâd, felly y rhodiom ninnau hefyd mewn newydd‐deb bywyd.