Romans 6:5 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can ys a’s in cydhimpiwyt ni ac ef i gyffelypiaeth y angeu ef, ac velly y byddwn ni i gyffelypieth y gyfodiat ef,
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
canys os ein cyd-uno ag Ef a fu i ni trwy gyffelybiaeth Ei farwolaeth Ef, trwy gyffelybiaeth Ei adgyfodiad hefyd y byddwn felly;
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Canys os tyfasom yn un â chyffelybrwydd ei farwolaeth, byddwn felly hefyd â chyffelybrwydd ei atgyfodiad,
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Canys os gwnaed ni yn gyd‐blanhigion i gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, felly y byddwn i gyffelybiaeth ei atgyfodiad ef:
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Os ydyn ni wedi ein huno â'i farwolaeth, dŷn ni'n siŵr o gael ein huno hefyd â'i atgyfodiad.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Oherwydd os daethom ni yn un ag ef trwy farwolaeth ar lun ei farwolaeth ef, fe'n ceir hefyd yn un ag ef trwy atgyfodiad ar lun ei atgyfodiad ef.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Canys os ydym wedi ein cyfuno âg ef trwy gyffelybiaeth ei farwolaeth ef, hefyd ni a fyddwn trwy gyffelybiaeth ei adgyfodiad ef;