Romans 7:1 — Compare Translations

7 translations compared side by side

Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
ANy wyddoch vvi, vroder, (wrth wybyddieit y Ddeddyf y dywedaf) yr arglwyddia y Ddeðyf ar ðyn tra vo ef byw?
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai heb wybod yr ydych, frodyr, (canys wrth rai yn gwybod y Gyfraith yr wyf yn dywedyd,) fod y Gyfraith yn arglwyddiaethu ar ddyn am gymmaint o amser ag y mae efe yn fyw?
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Ai heb wybod yr ydych, frodyr, canys wrth rai a ŵyr am ddeddf y llefaraf, mai cyhyd ag y bo byw dyn yr arglwyddiaetha’r ddeddf arno?
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Oni wyddoch chwi, frodyr, (canys wrth y rhai sydd yn gwybod y ddeddf yr wyf yn dywedyd,) fod y ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra fyddo efe byw?
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Frodyr a chwiorydd, dych chi'n bobl sy'n gyfarwydd â Chyfraith Duw, felly mae'n rhaid eich bod chi'n deall cymaint â hyn: dydy'r Gyfraith ddim ond yn cyfri pan mae rhywun yn dal yn fyw.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
A ydych heb wybod, gyfeillion, ac yr wyf yn siarad rhai sy'n gwybod y Gyfraith fod gan gyfraith awdurdod dros rywun cyhyd ag y bydd yn fyw?
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Ai heb wybod yr ydych, frodyr (canys wrth rai sydd yn gwybod am ddeddf yr wyf yn dywedyd), fod y Ddeddf yn arglwyddiaethu ar ddyn tra byddo efe byw?