Romans 7:13 — Compare Translations
7 translations compared side by side
Welsh 1567 (Testament Newydd a'r Salmau 1567 (William Salesbury))
Can hyny a wnaethpwyt y peth oedd dda, yn angeu i mi? Na ato Duw: eithyr pechot, er iddo ymddangos yn bechot, a weithiawdd angeu ynof trwy yr hyn ysy yn dda, val y byddei pechot yn dra phechadurus trwy’r gorchymyn.
Welsh 1894 (Cyfieithiad Briscoe 1853-94 (Test. Newydd a rhannau o'r Hen Dest.))
Ai’r hyn sydd dda, gan hyny, a aeth yn farwolaeth i mi? Na atto Duw: eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio, trwy’r hyn sydd dda, farwolaeth i mi —, fel yr elai pechod yn bechadurus dros fesur trwy’r gorchymyn.
Welsh 1945 (Cyfieithiad Urdd y Graddedigion 1921-45 (T.N., Hosea ac Amos))
Gan hynny, a ddaeth yr hyn sy dda i mi yn farwolaeth? Na ato! Yn hytrach, pechod a fu felly, fel yr amlygid ef yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi drwy’r hyn sy dda, fel y byddai pechod trwy’r gorchymyn yn bechadurus i’r eithaf.
Welsh 1955 (Beibl William Morgan - Argraffiad 1955)
Gan hynny a wnaethpwyd y peth oedd dda, yn farwolaeth i mi? Na ato Duw. Eithr pechod, fel yr ymddangosai yn bechod, gan weithio marwolaeth ynof fi trwy'r hyn sydd dda: fel y byddai pechod trwy'r gorchymyn yn dra phechadurus.
Welsh 2023 (BNET) (beibl.net 2015, 2024)
Felly ai y peth da yma wnaeth fy lladd i? Nage, wrth gwrs ddim! Y pechod mae'r peth da yn ei ddangos wnaeth fy lladd i. Felly beth mae'r gorchymyn yn ei wneud ydy dangos mor ofnadwy o ddrwg ydy pechod.
Welsh BCND (Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig 2004)
Os felly, a drodd y peth da hwn yn farwolaeth i mi? Naddo, ddim o gwbl! Yn hytrach, y mae pechod yn defnyddio'r peth da hwn, ac yn dwyn marwolaeth i mi, er mwyn i wir natur pechod ddod i'r golwg. Mewn gair, swydd y gorchymyn yw dwyn pechod i anterth ei bechadurusrwydd.
Welsh CTE 1894 (Testament Newydd gyda Nodiadau 1894-1915 (William Edwards))
Am hynny, a ddaeth yr hyn sydd dda yn farwolaeth i mi? Na atto Duw; eithr pechod, fel yr ymddangosai ei fod yn bechod, gan weithio marwolaeth i mi, trwy yr hyn sydd dda, fel y byddai pechod trwy y Gorchymyn yn bechadurus dros fesur.